Resident in kitchen at Ty Cwm

Tŷ Cwm - Cymraeg

Mewn lleoliad coedog a thawel, mae Tŷ Cwm yn gartref i 20 oedolyn ag anableddau corfforol. Rydym o fewn tafliad carreg i ganol tref Caerfyrddin, ac yn agos at atyniadau lleol gan gynnwys y Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru a Pharc Arfordirol y Mileniwm

Dod o hyd i ni

Organisation
Tŷ Cwm
Street address
Lôn Tŷ Cwm
Heol Llysonnen, Tre Ioan
Post town
Caerfyrddin
Postal code
SA31 3GA
Phone number
Service manager:
Jacquie Wilkinson

Datrysiadau byw

  • Cartref gofal a nyrsio ar gyfer 20 oedolyn
  • Gofal seibiant

English version

Mae pawb yn gwybod nad oes unman tebyg i gartref

Dyna pam mae pob cartref Leonard Cheshire yn unigryw ac yn rhoi’r cymorth sy’n addas i’r bobl sy’n byw yno. Mae cymorth wedi'i bersonoleiddio yn helpu i sicrhau y gall pawb fyw mor annibynnol ag y mynnent.

Mewn lleoliad coedog a thawel, mae Tŷ Cwm yn gartref i 20 oedolyn ag anableddau corfforol.Rydym o fewn tafliad carreg i ganol tref Caerfyrddin, ac yn agos at atyniadau lleol gan gynnwys y Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru a Pharc Arfordirol y Mileniwm.


Ai dyma’r lle i chi?

Mae’n le diogel a chyfeillgar i fyw ynddo, gyda gofal a nyrsio o safon uchel. Mae’r tîm yn ymrwymedig ac yn brofiadol a bydd yn sicrhau ei fod yn deall ac yn bodloni eich anghenion - a hynny oll gyda’r preifatrwydd a’r parch uchaf. Rydym yn cynnig ffisiotherapi hefyd i’ch cefnogi gyda’ch iechyd a lles.


Bydd y bobl fyddwch yn cwrdd â nhw, y pethau fyddwch yn eu gwneud…

Drwy fyw yma, byddwch yn cael eich cefnogi i fod yn annibynnol, yn iach ac yn actif. Mae rhywbeth at ddant pawb ac mae ein tîm o staff a gwirfoddolwyr ardderchog yn cynnal gweithgareddau unigol ac mewn grŵp, gan gynnwys karaoke a nofio. Felly beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi, p’un a yw’n cadw’n heini neu fod yn greadigol, mae bob amser rhywbeth y gallwch gymryd rhan ynddo.

…yn eich tywys i’r lle rydych am fynd

Dywedwch wrthym beth rydych chi am ei wneud, a gyda’n gilydd byddwn yn eich helpu i’w gyflawni. Beth bynnag fyddwch yn ei ddewis, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau ei fod yn eich helpu i gyflawni eich nodau. Gallwch deimlo’n gartrefol yn Nhŷ Cwm ar eich trywydd tuag at fyw’n annibynnol.


Cyfleusterau a gwasanaethau

  • Gofal seibiant
  • Ffisiotherapi
  • Ystafell synhwyraidd (gan gynnwys Eyegaze a charped hud)
  • Dodrefn eich hun os oes eu hangen
  • Anifeiliaid anwes ar gais
  • Gerddi i breswylwyr
  • Pwynt ffôn yn eich ystafell eich hun/ffôn symudol

Speak to us about referrals

If you're interested in learning more about Ty Cwm you can email us at:
referrals@leonardcheshire.org.

Rhoi Arian i Leonard Cheshire

Rhoi Arian i Leonard Cheshire

One-off