Resident at Eithinog

Eithinog - Cymraeg

Y tu allan i dref glan môr Bae Colwyn, mae Eithinog yn gartref i 34 oedolyn ag anableddau corfforol. Gerllaw mae’r traeth, promenâd, canolfan siopa dan do, pwll nofio a sinema. Ac rydym yn agos at y gyrchfan glan môr mwy o faint, Llandudno.

Dod o hyd i ni

Organisation
Eithinog
Street address
Yr Hen Briffordd
Bae Colwyn
Post town
Conwy
Postal code
LL28 5YA
Phone number
Service manager:
Laura Armstrong

Datrysiadau byw

  • Cartref gofal a nyrsio ar gyfer 34 oedolyn
  • Gofal Dydd
  • Hyfforddiant byw’n annibynnol

English version

Mae pawb yn gwybod nad oes unman tebyg i gartref

Dyna pam mae pob cartref Leonard Cheshire yn unigryw ac yn rhoi’r cymorth sy’n addas i’r bobl sy’n byw yno. Mae cymorth wedi'i bersonoleiddio yn helpu i sicrhau y gall pawb fyw mor annibynnol ag y mynnent.

Y tu allan i dref glan môr Bae Colwyn, mae Eithinog yn gartref i 34 oedolyn ag anableddau corfforol. Gerllaw mae’r traeth, promenâd, canolfan siopa dan do, pwll nofio a sinema. Ac rydym yn agos at y gyrchfan glan môr mwy o faint, Llandudno.


Ai dyma’r lle i chi?

Mae’n le diogel a chyfeillgar i fyw ynddo, gyda gofal a nyrsio o safon uchel. Mae’r tîm yn ymrwymedig ac yn brofiadol a bydd yn sicrhau ei fod yn deall ac yn bodloni eich anghenion - a hynny oll gyda’r preifatrwydd a’r parch uchaf. Mae ffisiotherapi ar gael hefyd ac mae gennym bwll hydro, gampfa ac ystafell synhwyraidd i ymlacio.


Bydd y bobl fyddwch yn cwrdd â nhw, y pethau fyddwch yn eu gwneud…

Drwy fyw yma, byddwch yn cael eich cefnogi i fod yn annibynnol, yn iach ac yn actif. Mae rhywbeth at ddant pawb ac mae ein tîm o staff a gwirfoddolwyr ardderchog yn cynnal gweithgareddau unigol ac mewn grŵp, gan gynnwys hyfforddiant byw’n annibynnol. Felly beth bynnag sydd o ddiddordeb i chi, p’un a yw’n cadw’n heini neu fod yn greadigol, mae bob amser rhywbeth y gallwch gymryd rhan ynddo.

…yn eich tywys i’r lle rydych am fynd

Dywedwch wrthym beth rydych chi am ei wneud, a gyda’n gilydd byddwn yn eich helpu i’w gyflawni. Beth bynnag fyddwch yn ei ddewis, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau ei fod yn eich helpu i gyflawni eich nodau. Gallwch deimlo’n gartrefol yn Eithinog ar eich trywydd tuag at fyw’n annibynnol.


Cyfleusterau a gwasanaethau

  • Gofal Dydd
  • Ffisiotherapi
  • Hyfforddiant byw’n annibynnol
  • Meddyg Teulu eich hun os oes ei angen
  • Dodrefn eich hun os oes eu hangen
  • Pwll hydro a champfa
  • Ystafell synhwyraidd i ymlacio
  • Anifeiliaid anwes ar gais
  • Bws mini neu drafnidiaeth arall
  • Mynediad i gadeiriau olwyn
  • Llety llawr gwaelod yn unig
  • Gerddi a phatio
  • Pwynt ffôn yn eich ystafell eich hun/ffôn symudol
  • Pwynt teledu yn eich ystafell eich hun

Speak to us about referrals

If you're interested in learning more about Eithinog you can email us at
referrals@leonardcheshire.org.

Rhoi Arian i Leonard Cheshire

Rhoi Arian i Leonard Cheshire

One-off